OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 372 (Cy. 40)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) drwy estyn y ddarpariaeth ar gyfer cynnydd yn lefel y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach hyd 31 Mawrth 2015. Dim ond i gategorïau penodol o drethdalwr, y mae Gorchymyn 2008 yn eu cwmpasu, y mae'r estyniad o'r rhyddhad yn gymwys.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r manteision sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2014 Rhif 372 (Cy. 40)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 19 Chwefror 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Chwefror 2014
Yn dod i rym 14 Mawrth 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Mawrth 2014.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008
2.—(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 ([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 7(ch) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
(3) Yn erthygl 11(d) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
(4) Yn erthygl 11(dd) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
(5) Ym mhennawd erthygl 11A (y swm o E rhwng 1 Hydref 2010 a 31 Mawrth 2014) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
(6) Yn erthygl 11A(2) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2014
([1]) 1988 p. 41. Diwygiwyd adran 43 gan Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14); Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p. 29); Atodlen 8 i Ddeddf Gwasanaethau'r Post 2000 (p. 26); adrannau 1 a 3 o Ddeddf Ardrethu (Cyn Safleoedd Amaethyddiaeth a Siopau Gwledig) 2001 (p. 14); adrannau 61, 63 a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26); ac Atodlen 1 i Ddeddf y Dreth Gorfforaethau 2010 (p. 4). Mewnosodwyd adran 43(4B) gan adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Diwygiwyd adran 44 gan Atodlenni 5 a 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42); Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14); ac adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26).